Treftadaeth
Cartref > Gwybodaeth > Treftadaeth
Grŵp Treftadaeth Plwyf Llanengan
Ysgogwyd fi wrth sgwrsio ag un o reini Ysgol Abersoch. Sylweddolais nad oedd yn gwybod yr enwau lleol ac wedi bathu enwau saesneg dieithr.
Cawson fenthyg hen luniau gan Eleanor Jones, Nantmor gynt, lluniau gasglodd ei thad John ac o hynny cafwyd cannoedd o hen luniau ac arteffactau. Hyd y pla Covid roeddem yn cael arddangosfa am bythefnos bob haf a gobeithiwn gynnal un eto yn Haf 2024.
Y bwriad yw rhoi ar gof a chadw holl hanes y Plwyf i'r genhedlaeth nesaf ac i atgoffa ymwelwyr a mewnfudwyr beth yw hanes y Plwyf a i weld sut oedd pethau, rhag inni anghofio.
Anna Jones