Ymddiriedolwyr

Cartref > Amdanom > Ymddiriedolwyr

R H Wyn Williams 

Gwilym Thomas 

Richard Hughes

Anna Jones

Ganwyd Magi yn Nhan y Fron, Boduan, yn ferch i Robert Rice ac Eiddwen Griffiths ac yn chwaer i Janet, Iona a Trebor.   

Mynychodd Ysgol Ramadeg Pwllheli ac oddi yno i Goleg y Barri i hyfforddi i fod yn athrawes.  Ond oherwydd y ddamwain erchyll gafodd ei thad, gadawodd y coleg a dod adref at ei theulu.  A dyna chwilio am waith yn lleol.  Cafodd swyddi hefo Banc Barclays yn Amlwch, Pwllheli ac Abersoch. 

Ac yma yn y Rabar yn 17 mlwydd oed y daeth ar draws Arthur.   Daethant yn gariadon a buont yn briod am bron i 60 mlynedd.

Cafodd amrywiol o swyddi cyn dod yn Gynorthwydd Personol i Mr Minoprio yn y 'Warren', lle buodd am 36 mlynedd.

Roedd ei doniau ysgrifenyddol yn raenus a phrofesiynnol,  Yn osgystal â hynny roedd ddiddordebau a sgiliau eang ac roedd yn perthyn i sawl cymdeithas .   Aelod tawel oedd hi ond gyda brwdfrydedd ganwneud ei gwaith yn drwyadl.  

Hi oedd ysgrifennydd Neuadd Abersoch, a yn Drysorydd Cenedlaethol Cymdeithas Edward Llwyd, yn aelod gwerthfawr a phrysur o Grŵp Treftadaeth Plwyf Llanengan, Mercher y Wawr a'r Clwb Camera.   Bu'n llwyddianus sawl gwaith gyda'i lluniau yn y Clwb Camera ac yn Sirol gyda Mercher Y Wawr.  Ychydig ohonom wyddai fel y byddai'n codi yn y bore bach i fynd i lawr i Ben Cei i dynnu lluniau.

Un dawel diymhongar oedd hi ond yn fwrlwm o chwerthin,  Ei phleser mwyaf oedd ei thŷ gwydr a'i blodau.   Bu'n driw i'w chymdeithas ond fwy na hynny yn gymar a ffrind gorau i Arthur.  Mi frwydrodd yn ddwer dan fyrlymu chwerthin.  Rydym yn freintedig a balch fel cymdeithas ein bod wedi ni chael yn rhan o'n bywydau. 

'Bwrlwm ni chwerthin a heulwen ei gwên, 

Y rhinweddau hyn aiff byth yn hen.'